Croeso i wefan Coleg y Bala!

 

Coleg y Bala yw Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Coleg y Bala. Gweledigaeth y Parchedig Dafydd H.Owen oedd y Ganolfan, a sefydlwyd ym 1967. Bydd ein tîm ymroddedig o weithwyr Cristnogol yn trefnu rhaglen lawn hwyl a gweithgareddau i blant, ieuenctid yn eu harddegau a phobl ifanc hyn. Ein nod yw cyflwyno Iesu Grist i’r rheiny sy’n dod yma i aros, a hynny mewn ffordd fywiog a chyfoes. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar un o'r dolenni uchod.