|
Adnoddau a Syniadau

Wyt ti'n gwybod gan Gwydion Evans
Cyfres o sesiynau Beiblaidd i Blant 7-12 oed
(£4.99)
Mae 'Wyt ti'n gwybod?' yn cynnwys 6 sesiwn
byrlymus sy'n sôn am gymeriad Duw. Ym mhob
sesiwn ceir amrywiaeth o weithgareddau wedi eu
hanelu at blant ac ieuenctid iau, 7-12 oed.
Mae pob sesiwn yn cynnwys gemau, taflenni
gwaith, gemau i ddysgu adnodau a syniadau am
ganeuon bywiog - a'r cyfan wedi eu profi'n
effeithiol gyda phlant.
Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer clybiau
Cristnogol i blant ac ieuenctid iau, ac i'w
defnyddio yn yr Ysgol Sul neu mewn gwersi yn yr
Ysgol.
Paratowyd gan Wasanaeth Plant ac Ieuenctid
Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Ar Dim Duw
Cyfres o sesiynau beiblaidd i Blant 7-12 oed
(£4.99)
Mae 'Ar Dim Duw'
yn cynnwys 5 sesiwn hwyliog sy'n defnyddio byd
chwaraeon i egluro'r ffydd Gristnogol yn syml i
blant. Cynllunwyd yr holl weithgareddau yn
arbennig ar gyfer plant 7-12 oed.
Ceir llu o gemau, gweithgareddau, taflenni gwaith, gemau i ddysgu
adnodau a syniadau am ganeuon bywiog - a'r cyfan
wedi eu profi'n effeithiol gyda phlant.
Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer clybiau Cristnogol i blant ac
ieuenctid iau, ac i'w defnyddio yn yr Ysgol Sul
neu mewn gwersi yn yr Ysgol.
Paratowyd gan Wasanaeth Plant ac Ieuenctid
Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Iesu'r Ffrind gan Gwyn Rhydderch
16 sesiwn o Efengyl Luc yn cyflwyno Iesu i blant
cynradd
(£9.99)
Mae 'Iesu'r Ffrind' yn cynnwys 16 sesiwn ar
gyfer Clwb plant 7-12 oed, gyda pob sesiwn wedi
ei blethu o gwmpas stori Feiblaidd allan o
Efengyl Luc, ac yn llawn o syniadau amrywiol i
gyflwyno'r sesiwn yn fywiog ac effeithiol.
Ceir cynlluniau hyblyg a syml ar gyfer pob
sesiwn yn cynnwys gemau pwrpasol, caneuon,
addoliad, cwis, crefft, a thaflenni gwaith.
Mae'r cyfan wedi eu profi'n effeithiol gan yr
awdur wrth iddo arwain yn ei glybiau plant ei
hun, ac yn addas i glwb plant, yesgol Sul neu
fel rhan o wers mewn ysgol.

Mawredd Mawr Moses gan Catrin Roberts
Cyfres o sesiynau Beiblaidd i Blant 7-12 oed
(£9.99)
Mae 'Mawredd Mawr Moses' yn cynnwys 16 o
sesiynau ar gyfer clwb plant 7-12 oed. Ceir 3
thema llawn hwyl mewn un llyfr, gyda pob thema
wedi ei blethu o gwmpas stori Feiblaidd.
Mae pob sesiwn yn llawn o syniadau amrywiol i
gyflwyno'r thema yn fywiog ac effeithiol, ac yn
cynnwys gemau pwrpasol, caneuon, addoliad, cwis,
crefft, a thaflenni gwaih.- a'r cyfan wedi eu
profi'n effeithiol gan yr awdur wrth iddi arwain
yn ei chlybiau plant ei hun.
Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer clybiau
Cristnogol i blant ac ieuenctid iau, ac i'w
defnyddio yn yr Ysgol Sul neu mewn gwersi yn yr
Ysgol.
Gemau Gwirion gan Gwydion Evans
50 o gemau gyda chysylltiadau beiblaidd i'w
defnyddio gyda phlant a ieuenctid (£4.99)
Ceir gemau bywiog a thawel, gemau i losgi egni
ac eraill i losgi ymennydd! Mae yna gyfeiriadau
Beiblaidd i gydfynd â'r gemau i gyd a rhoddi'r
arweiniad clir o ran niferoedd ac oedran addas.
Llyfr defnyddiol iawn ar gyfer unrhywun sy'n
gweithio gyda phlant ac ieuenctid.

Llawlyfr Athrawon Luc@Beibl.net (Cyfnod
Allweddol 2) - £6.00
Mae'r llyfr yma wedi ei gynllunio i gydfynd â
Luc@Beibl.net, a bydd o gymorth i chi wneud y
defnydd gorau o'r fersiwn cyffroes yma o efengyl
Luc yn y dosbarth. Mae'n cynnwys cyfres o
gynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer
gwasanaethau i'w defnyddio gyda disgyblion
cyfnod allweddol 2.
Llawlyfr Athrawon Luc@Beibl.net (Cyfnod
Allweddol 3) - £8.00
Mae'r llyfr yma wedi ei gynllunio i gydfynd â
Luc@Beibl.net, a bydd o gymorth i chi wneud y
defnydd gorau o'r fersiwn cyffroes yma o efengyl
Luc yn y dosbarth. Mae'n cynnwys cyfres o
gynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer
gwasanaethau i'w defnyddio gyda disgyblion
cyfnod allweddol 3.
|