|
Blwyddyn Gap
Beth ydyw?
Mae BLWYDDYNGAP Coleg y Bala yn gwrs
ymarferol mewn meithrin disgyblion am 1 flwyddyn
(Medi i Awst) gyda’r gwaith wedi ei ganoli yn y
Coleg.
Pwy ydyn NI?
Canolfan i Blant ac Ieuenctid yw Coleg y Bala,
sydd yn eiddo i Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae’r weledigaeth yma yn glir, sef atgoffa pawb
o bob oed am yr angen am ffydd bersonol yn Iesu
Grist.
NOD Y FLWYDDYNGAP ydyw:
§
annog datblygiad personol ac ysbrydol.
§
ceisio ymgyrraedd fwy fwy at fod yn gymeriad
Crist debyg.
§
cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod eu doniau a’u
potensial.
§
datblygu sgiliau mewn arweinyddiaeth effeithiol,
cyfathrebu ac adeiladu tîm.
§
Cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad eu
cyfraniad i fywyd yr Eglwys yn y dyfodol.
Ar gyfer PWY felly?
Mae’r FLWYDDYNGAP yn gweddu’n naturiol i
fyfyrwyr sy’n gorffen tymor yn yr ysgol neu
brifysgol, sydd awydd cymryd amser allan mewn
gwasanaeth neu i ystyried eu galwedigaeth ar
gyfer y dyfodol. Ond nid yw’r flwyddyn yn unig
ar gyfer myfyrwyr felly, ond hefyd ar gyfer pobl
fuasai’n manteisio drwy gymryd toriad o waith
neu wasanaeth am gyfnod penodol, eto er mwyn
ystyried eu dyfodol.
Yn bennaf, mae’r FLWYDDYNGAP ar gyfer
unrhyw un sydd yn awyddus i ddatblygu a dyfnhau
eu heffeithiolrwydd mewn gwasanaeth Cristnogol.
Beth fyddwn i yn ei WNEUD?
Bydd y myfyrwyr sydd yn rhan o’r Flwyddyn
rhyngenwadol a dwyieithog yma yn cael cyfle i
brofi a hefyd bod yn gwbl weithredol o fewn yr
amrywiol weithgareddau sy’n rhan annatod o waith
Coleg y Bala bellach.
Mae hyn yn cynnwys:
§
cyflwyno Cristnogaeth i blant a ieuenctid mewn
modd berthnasol a chyfoes, a hynny nid yn unig o
fewn y Ganolfan ond hefyd mewn ysgolion ac
eglwysi lleol a thu hwnt.
§
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, Hylendid
Bwyd a Chymorth Cyntaf.
§
cynorthwyo gyda gweinyddiad cyffredinol y
Ganolfan, gydag ychydig o waith cegin a glanhau
ynghyd â rhyw gymaint o gyfrifoldebau gyda’r
cynnal a chadw.
§
cefnogi ac arwain gwaith Cristnogol gyda phlant
a ieuenctid lleol.
§
cymryd rhan yn y cyrsiau Cyflwyno’r Ffydd ganol
wythnos (Alffa neu gwrs tebyg) neu gynorthwyo i
arwain astudiaeth Feiblaidd yn y Coleg.
§
hyfforddiant mewn materion ynglŷn â Diogelwch
Plant.
§
cael y cyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau
awyr agored gyda’r cyfle hefyd i weithio tuag
ennill cymwysterau arbennig.
§
cymryd rhan ac arwain addoliad dyddiol y
Ganolfan.
§
bod yn aelod o gymuned glos deuluol yn y
Ganolfan.
Tra’n meithrin sgiliau a phrofiadau ymarferol
bydd pob myfyriwr hefyd yn treulio 1 diwrnod o’r
wythnos yn dilyn cwrs academaidd yn y Brifysgol
ym Mangor. Yn y Semester cyntaf bydd y myfyrwyr
yn dilyn cwrs “Cyflwyniad i Astudiaethau
Ieuenctid Cristnogol”, ac wedyn yn yr ail
Semester bydd cyfle i ddewis astudio o fewn maes
Athrawiaeth Gristnogol, Hanes yr Eglwys neu
Ddiwinyddiaeth a Diwylliant.
Atebolrwydd
Bydd y myfyriwr yn atebol i’r Cyfarwyddwr ac yn
derbyn arweiniad drwy gyfarfodydd ffurfiol cyson
hefo aelod parhaol o’r staff.
Beth fydd y GOST?
DIM, ac fe fyddwch yn derbyn arian poced ynghyd
â llety am ddim a rhai prydau bwyd yn ogystal.
(Mae’r FLWYDDYNGAP yn cael ei noddi gan
Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Cyngor Cenhadaeth
Byd Eang a Chyfeillion Coleg y Bala.)
Sut y medraf wneud CAIS?
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais cysylltwch
â’r:
Cyfarwyddwr
Coleg y Bala
Y Bala
Gwynedd
LL23 7RY
(
01678 520565
colegybala@ebcpcw.org.uk
|