www.colegybala.org   

 

      Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Diogelwch Plant 3

   

Diogelwch Plant
 

Polisi Coleg y Bala yw diogelu lles pob plentyn ac unigolyn ifanc drwy’i amddiffyn rhag esgeulustod, a rhag niewd corfforol, rhywiol ac emosiynol. Fel canolfan yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu lles ein haelodau a’r rhai a ymddiriedir i’n gofal. Bydd gweithwyr cyflogedig a gweithwyr gwirfoddol y Coleg bob amser yn dangos parch at hawliau plant a dealltwriaeth ohonynt, gan hybu ethos o wrando ar blant ac o sicrhau eu diogelwch a’u lles, gan ymddwyn mewn modd a adlewyrcho egwyddorion yr Eglwys Gristnogol.

 

·         Byddwn yn trin pob plentyn ac unigolyn ifanc â pharch ac urddas.

·         Byddwn bob amser yn barod i wrando ar blant ifainc heb eu beirniadu

·         Gweithiwn i adeiladu perthynas iach â phlant a phobl ifanc ac i fod yn batrwm ymddygiad, gan osod esiampl dda.

·         Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu goruchwylio bob amser.

·         Ni fydd gweithwyr gwirfoddol na gweithwyr cyflogedig yn gweithio ar eu pennau eu hunain.

 

Os am fwy o wybodaeth neu gyngor ar les plant â phobl ifanc, ewch i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru

 

 

English

 
 

This page was updated on 25/07/2006