|
Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out
BETH YW ‘SOULED OUT’?
Dros y pum mlynedd diwethaf, un o’r
uchafbwyntiau i Staff Coleg y Bala yw cael bod
yn rhan o'r cwrs ‘Souled Out’ sef ein cwrs
hyfforddi i bobl ifanc dros 15 mlwydd oed. Mae
bob amser wedi bod yn dda i groesawu pobl ifanc
o bob rhan o Gymru i ‘Souled Out,’ cwrs sy’n
anelu i feithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr.
Aduniad Souled Out 4-6ed Ionawr
Dros y misoedd diwethaf, mae grwpiau Souled Out
wedi parhau i gyfarfod mewn pum lleoliad
gwahanol ar draws Cymru, yn ogystal â Manceinion
am y tro cyntaf!
Mae bob tro yn anogaeth i Gristnogion ifanc
cyfarfod a’i gilydd am fwyd, cymdeithas,
addoliad, gweddi, ac i ddysgu o Air Duw. Mae’r
amseroedd yma’n parhau i fod yn fendith i’r
ieuenctid hyn ac oedolion ifanc sy’n mynychu. Ac
felly rydym yn edrych ymlaen at dymor newydd o
grwpiau Souled Out yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Aduniad Souled Out pob tro yn ffordd dda i
gychwyn Blwyddyn Newydd. Fe fydd yna gyfle eto i
fwynhau cymdeithas, ac i ddysgu ag addoli’r
Arglwydd gyda’n gilydd. Mae’r penwythnos yma’n
benodol ar gyfer ieuenctid hyn (15+) ac oedolion
ifanc, ac mae yna groeso cynnes i bawb, os ydych
yn newydd i Souled Out, neu wedi bod ynghlwm â'r
gwaith am flynyddoedd!
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gofrestru, plîs
cysylltwch â Meryl Walters, yng Ngholeg y Bala
ar 01678 520565, neu ar
e-bost.
Aduniad 2007
Souled Out
Awst 2006
Aduniad
Souled Out 2006
Lluniau
Souled Out 2005
Souled Out
2004 a Be Ddigwyddodd Wedyn |