www.colegybala.org   

 

      Coleg y BALA

 

Contact us   

ml>

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out 3

   

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out
 

CEFNDIR:

BETH YW ‘SOULED OUT’?

 

Dros y pum mlynedd diwethaf, un o’r uchafbwyntiau i Staff Coleg y Bala yw cael bod yn rhan o'r cwrs ‘Souled Out’ sef ein cwrs hyfforddi i bobl ifanc dros 15 mlwydd oed. Mae bob amser wedi bod yn dda i groesawu pobl ifanc o bob rhan o Gymru i ‘Souled Out,’ cwrs sy’n anelu i feithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr.

 

SOULED OUT 2004

 

Yn sicr nid oedd cwrs haf Souled Out 2004 yn eithriad, a chafwyd wythnos arbennig iawn. Yng nghanol holl gyffro’r gweithgareddau- pêl droed, nofio, bowlio deg, a theithiau amrywiol- cawsom amseroedd bywiog o addoli, yn ogystal â sesiynau a oedd yn ein bwydo’n ysbrydol ac yn ein herio.

 

Fe siaradodd Andy â ni am yr Eglwys Fore a ddisgrifiwyd yn Actau 2: 42-47.  Fe welsom ni gymuned o Gristnogion a oedd yn llenwi eu meddyliau â gwirionedd Duw ac yn rhannu eu bywydau gyda Duw â’i gilydd.  Pobl a oedd yn gweddïo, moli, bwyta a chofio am farwolaeth Iesu gyda’i gilydd.  Fe nododd Andy mai wrth iddynt hwy wneud y pethau hyn, fe wnaeth Duw eu hamser gyda’i gilydd yn arswydus (a.43), rhyfeddol (a.43) ac yn adegau pan oedd pobl eraill yn dod yn Gristnogion (a.47).  Dyma beth oedd yr Eglwys, rhywbeth yr oedd pobl wrth eu bodd yn bod yn rhan ohono! Hefyd gofynnodd David Ollerton y cwestiwn, ‘Beth yw Eglwys?’ Yr ateb?  Pobl nid adeiladau.  Anogodd David ni i freuddwydio breuddwydion.  Beth fyddai’n digwydd petaem ni fel arweinwyr ifanc yn ymroi i wneud i’r Eglwys weithio fel y dylai?

 

Yn ystod cwrs yr haf hwn, daeth yn glir i ni fod rhaid i Souled Out ddatblygu yn rhywbeth mwy na un cwrs ag aduniad bob blwyddyn. Penderfynwyd y dylai Souled Out fod yn rhwydwaith o ffrindiau yn rhannu’r un weledigaeth. Ac felly penderfynwyd sefydlu 4 grŵp rhanbarthol a fyddai’n cwrdd yn rheolaidd. Penderfynwyd hefyd i ddechrau cynhyrchu cylchlythyr pob chwarter er mwyn rhannu'r newyddion diweddaraf. Ac felly wrth i ni gymryd y cam newydd hwn gyda’n gilydd, rydyn yn edrych ymlaen at weld y pethau sydd gan Dduw ar ein cyfer.

BETH DDIGWYDDODD WEDYN?

Ers yr haf mae pob grŵp rhanbarthol wedi bod yn cwrdd yn gyson, gan fwyta, addoli, dysgu a gweddïo gyda’i gilydd. Cafwyd amseroedd bendithiol iawn wrth inni annog ein gilydd, fel pobl ifanc, i ddysgu mwy am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddisgybl i’r Iesu. Hefyd, fel y bwriadwyd, mae yna nifer o gylchlythyrau wedi eu cynhyrchu, sydd wedi bod yn ffordd o gadw cysylltiad gyda phawb, ac i wneud yn siŵr fod gweledigaeth Souled Out yn aros yn fyw yng nghalonnau pob un.

Cafwyd cyfle yn Ionawr i bawb ddod nôl at ei gilydd i'r Aduniad, gyda dros ugain ohonom yn bresennol, a rhai wynebau newydd hefyd yn ein plith. Roedd y thema yn un a roddodd her amlwg i bawb a oedd yno- Crëwyd ni i fod fel Crist - ac roedd yn ffordd arbennig iawn o ddechrau blwyddyn newydd.

 

English

 
 

This page was updated on 14/07/2008