www.colegybala.org   

 

      Coleg y BALA

 

Contact us   

ml>

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out 3

   

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out
 

Aduniad Souled Out: 6ed-8fed Ionawr 2006

 

Ers i fi gyrraed Coleg y Bala ym mis Medi diwethaf, clywais lot am y profiadau anhygoel sy wedi cael eu rhannu gan y rhai a fuodd ac y Cwrs Hyffordiant Ieuenctid o’r enw ‘Souled Out’ ym mis Awst. Roedd yn ymddangos bod Iesu wedi bod yn gweithio’n nerthol dros yr wythnos, a roedd lot o bobl wedi gadael yn teimlo na fyddau eu bywydau ddim yr un fath byth eto. Fel canlyniad o bobeth o ni wedi clywed, roeddwn yn disgwyl pethau gret o’r aduniad Souled Out 2006.

          Cynhaliwyd yr aduniad rhwng dydd Gwener y 6ed a dydd Sul yr 8fed; a dechreuon ni’r Blwyddyn Newydd trwy edrych gyda’n gilydd ar y Doniau Ysbrydol mae Duw yn rhoi i bob Cristion, a sut i ni’n adnabod ein doniadau er mwyn gwasanaethu’r eglwys. Fel cyflwyniad gwnaeth Sion a fi arwain y sesiwn cyntaf ar-ol swper nos Wener. Y teitl oedd ‘Saved to Serve’, a canolbwyntiodd  ni ar pa mor anhygoel yw Gras Duw. Edrychom yn arbennig ar ddau elfen, sef ein bod wedi ein cyfiawnhau (Justified) unwaith ac am byth trwy waed Crist, ac ar yr un pryd bod pob Cristion mewn proses o sancteiddhad (Sanctification) sef ein bod trwy waith Duw ynom yn dod yn fwy fel Iesu. Fel canlyniad i hyn dylem ni fod eisiau defnyddio ein doniadau i wasanaethu Corff o Iesu Gris- (yr Egwys.

          Wnaeth y noson ddim gorffen ar ôl y sessiwn, gyda pawb yn parhau i ddal fynny a sgwrsio tan oriau man y bore! O ganyniad cafwyd cychwyn araf Iawn i fore Sadwrn, ac roedd brecwast 8:30 yn dawel iawn! Ond roedd yn ymddangos fod pawb yn fwy effro, beth bynnag, ar-ol cychwyn sesiwn Meryl ac Owain.. Ar-ol i Meryl siarad am beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y Doniau Ysbrydol, roedd Owain yn parhau gyda nifer o ymarferion o’r llyfryn ‘The Network Course’. Yn dechrau gyda beth yw doniadau ysbryddol, roedden ni’n parhau trwy edrych ar ein doniadau personol ni (trugaredd, lletygarwch, calondid ac ati), a hynny trwy ateb 133 o gwestiynu. Roedd hyn yn ymarfer defnyddiol i galonogi pawb i feddwl lle gallen nhw wasanaethu Duw.

Yn ystod prynhawn dydd Sadwrn, roedd yna daith i Betws y Coed wedi cael ei drefnu. Mwynheuodd rhai o bobl edrych o gwmpas lot of siopau dringo, tra bod pobl eraill jyst yn ymlacio yn y caffi’s lleol. Roedd hyd yn oed rhai yn ddigon dewr i brynu hufen ia, er gwaetha’r ffaith ei fod yn dechrau bwrw eira!

Roedd y sessiwn olaf nos Sadwrn wedi ei gynllunio i ganolbwyntio ein sylw ar ein hangerdd Duwiol. Ar-ol cyflwyniad byr, aethom ati yn unigol i ateb cwestiynau am ein angerdd; gyda’r rhan olaf yn ein harwain ni i ysgrifennu brawddeg yn crynhoi ein atebion. Ar-ol hyn, roedd e’n dda i gael cyfle i wylio ffilm gyda’n gilydd. Er gwaethaf tipyn bach o anghytuneb cyfeillgar yn y Spar, penderfynon ni wylio Madagascar. Roedd e’n dewis da; ac ar-ol, roedd pobl yn chwarae gemau a bwyta lot o Jaffa Cakes!

Arweiniwyd y sessiwn olaf ar fore Sul gan Bryn, a roedd e’n siarad ymhellach ar Ddoniau Ysbryddol gan roi sialens i ni wrth orffen. Yn ystod amser o addoliad gyda Nia, roedd cyfle i adlewyrchu ar y penwythnos, cyn i ni fynd adre, ac yna rhannodd Meryl y Cymun. Roedd e’n amlwg fod Dduw wedi bod ar waith, a roedd e’n mor ddefnyddiol i ffeindio allan am y ffordd unigryw y gall pob un o ni wasanaethu Duw.

 The Souled Out courses and regional meetings have paved the way for some amazing friendships, with everyone really looking out for and loving one another. Although we were comparatively low in number over the weekend, those who were unable to make it were certainly missed and remembered throughout.

          Mae’n amlwg fod y cwrs Souled Out, a’r cyfarfodydd rhanbarthol wedi arwain at brofiadau a chyfeillgarwch arbennig iawn, gyda pob un yn edrych allan am ei gilydd mewn cariad. Er fod y niferoedd ychydig yn llai na’r haf, a bod rhai wedi methu dod, redden ni’n meddwl ac yn gweddio amdanynt trwy’r penwythnos.

 

Rebecca Perry

 

 

 

English

 
 

This page was updated on 14/07/2008