www.colegybala.org   

 

      Coleg y BALA

 

Contact us   

ml>

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out 3

   

Aduniad Souled Out 2007
 

Dechreuodd y Flwyddyn Newydd mewn ffordd cyffroes iawn gyda dros ugain o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i Aduniad Souled Out. Thema’r penwythnos oedd ‘Rhyfeddol!’ ac fe gawsom ni amser arbennig iawn yn edrych ar pa mor rhyfeddol yw Duw a sut y dylai hyn effeithio ein bywyd. Ar y nos Wener edrychom ar fywyd Iesu ar y ddaear, gan weld sut y bu i’w weithredoedd a’u weinidogaeth ryfeddu cymaint o’r rhai a ddaeth o bell ac agos i’w gyfarfod. Mae hyn i’w weld trwy gydol bywyd a marwolaeth Iesu, ond y peth mwyaf rhyfeddol o’r cyfan oedd y ffaith iddo atgyfodi o’r bedd! Edrychwyd ar effaith hyn ar y disgyblion ac arnom ni heddiw, a cafwyd tystiolaeth gan rai o’r ffordd yr oedd Duw wedi eu rhyfeddu yn ddiweddar, yn ogystal a chyfle i drafod mewn gwrpiau.

Ar y dydd Sadwrn ymunodd Arfon Jones i siarad gyda ni. Yn ystod y bore roeddem yn edrych ar ddigwyddiadau yn yr Hen Destament lle anfonodd Duw ei dân fel ffordd o ddatguddio ei ogoniant i’r Israeliaid, a hwythau yn ymateb trwy ei foli. Heriodd ni i gadw’r tân i losgi yn ein bywydau (Leviticus 6:13) gan edrych ar sut oedd gwneud hyn yn ymarferol.

Fe gawsom amser braf iawn yn y ganolfan handden yn chwarae hoci a pel-droed yn y prynhawn. Roedd yna ddigon o gyfle hefyd i ymlacio, i ddal fynny gyda hen ffrindiau a dod i nabod eraill yn well.

Yn y nos, parhaodd Arfon Jones gyda’r thema o gadw’r tan i losgi, gan edrych ar esiampl yr Eglwys Fore yn Actau. Canolbwyntiodd ar yr angen i ddarllen y Beibl, cael cymdeithas Gristnogol gyda’n gilydd, torri’r bara a dod at ein gilydd i weddio.

Y thema ar fore Sul oedd Cenhadaeth: sef cymryd y pethau rhyfeddol am Dduw a’i rannu gyda’r rhai sydd angen ei glywed, mewn gair a gweithred! Pan rydym yn clywed newyddion, rydym eisiau ei rannu gyda pawb i ni’n ei gyfarfod, a dyna’r beth y camsom ein herio i wneud gyda’r newyddion da am Iesu Grist..

Roedd y penwythnos cyfan yn brofiad anhygoel, ac yn gyfle i gael profi Duw ar waith ym mywydau cymaint o bobl ifanc. Penwythnos o anogaeth a her, mawl ac addoliad, hwyl a chymdeithas.

Rhiân Barrett
 

   

 

English

 
 

This page was updated on 14/07/2008