www.colegybala.org    

 

  Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

Hafan

Lleoliad y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

 

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 

Ble ydw i?  Hafan

MAWRTH 2008

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Digwyddiadau
 
 
·    



 
 

 

Dydd Sadwrn, Mawrth 8fed cafwyd Gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd a gwaith  Siôn Ifan Evans yng Nghapel Tegid, Y Bala.  Roedd wedi gweithio yma yng  Ngholeg y Bala fel Is-Reolwr ac yn Swyddog Ieuenctid i’r Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid.  ‘Roedd y cannoedd ddaeth ynghyd yn arwydd o sut oedd wedi cyffwrdd bywydau pob un a ddeuai i gysylltiad ag ef.  Siaradodd nifer o’i ffrindiau agos  amdano fel Siôn Tirgwyn, Siôn ym Mhrifysgol Bangor, Siôn y cyd weithiwr, Siôn yn y Bala, Siôn y tyst, Siôn yr Annibynnwr,  Siôn y crwydryn, Siôn drws nesa a Siôn y ffrind.  ‘Roedd dau beth yn glir am Siôn, sef ei ffydd yn yr Arglwydd a’i hiwmor ymhlith ei ffrindiau.  Daeth yr un adnod i’r amlwg gan sawl un o'r siaradwyr, sef  “Nid i ni, O Arglwydd, nid  i ni, ond i’th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a’th ffyddlondeb.” Salm 115:1  Bydd atgofion melys iawn gennym oll o Siôn a byddwn yn parhau gyda’i waith o ddyrchafu enw Iesu Grist a chyflwyno'r Efengyl i blant a phobl ifanc.

 

 

English

 Newydd

 
Hyfforddiant
 
Rhaglen 2008
 
Pwy Fuodd Yma Rhagfyr
 
 Pwyntiau Gweddi Rhagfyr 2007
 
 

Pwy 'di pwy?

 Staff y Coleg
 
 
 
 
 
 
 

This page was updated on 25/04/2008