www.colegybala.org    

 

  Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Pwy Fuodd Yma 3

   

Pwy Fuodd Yma?

 

Yn ystod mis Ionawr rydym wedi cael amryw o gyrsiau plant a Ieuenctid. Dechreuodd y flwyddyn gyda’g aduniad y Cwrs Hyfforddi Ieuenctid a gallwch ddarllen mwy am yr hyn ddigwyddodd yno ar y dudalen ‘Hyfforddi Ieuenctid’.

Yna fe ddaeth criw o blant o Cerrigydridion a’r cylch i’r Coleg am y tro cyntaf. Roeddent yn griw bywiog iawn ac yn amlwg wedi cael tipyn o hwyl wrth i Nia a Meryl eu harwain.

Cafwyd ymateb da unwaith eto eleni i benwythnos Dyffryn Clwyd a Llanberis, gyda’r Coleg yn orlawn o blant. Roedd yna 52 i gyd yn cynnwys plant ac arweinwyr o Llanberis, Prestatyn, Rhuthin, Llanefydd a Llansannan. Gwnaeth y plant fwynhau sesiynau bywiog o dan ofal Gwyn Rhydderch ac roedd Meryl yno hefyd i gadw trefn, yn enwedig wrth drio cael y plant i gysgu!

Yna penwythnos diwethaf ar ddechrau Chwefror roedd Siôn a Becca yn gyfrifol am y Cwrs Ieuenctid Cymraeg, a daeth Rhun a Oliver atom hefyd i gynorthwyo gyda’r arwain. Roedd yna 26 o Ieuenctid wedi dod, rhai yn dod am y tro cyntaf ac eraill wedi bod yn dod i’r Coleg am flynyddoedd. Cawsom benwythnos yn llawn o weithgareddau a sialensau gan fod y cwrs wedi ei selio ar ‘I’m a Celebrity Get Me Out of Here’ ac yn edrych ar hanes yr Isreiliaid yn dod allan o’r anialwch i mewn i wlad Canaan.

Dyma rhai luniau o’r cyrsiau:

 

 

 

English

 
 

This page was updated on 25/04/2008