|
Pwy Fuodd Yma?
Da ni wedi cael nifer o grwpiau yn aros yng
Ngholeg y Bala dros mis Mai; a’r cynta oedd grwp
o bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Dechreuodd y
cwrs hwn ar ddydd Gwener Mai y 5ed, ac er i ni
gychwyn yn hwyr (oherwydd traffic a ceir yn
torri lawr) dechreuon ni y rhaglen gyda chyfres
o sialensau tim. Roedden nhw ar fformat ‘I’m a
Celebrity Get Me Out of Here’, a roedd rhaid yr
aelodau tim gael eu blindfoldio a chymryd rhan
mewn nifer o ‘bush tucker trials’; y cynta yn
cynnwys casglu ser melyn allan o fwcedi yn dal
bwyd fel spaghetti, jelli a ffa pob!
Teitl y penwythnos oedd ‘Out of the Wilderness’,
a’r gol oedd i ganolbwyntio ar yr amser
treuliodd yr Israeliaid yn yr anialwch cyn iddyn
nhw gyrraedd Canaan- gwlad yr addewid. Wrth
edrych ar beth fyddai’n gwneud arweinydd da fe
netho ni lawer o weithgareddau fel adeiladu
pabell a sialens ‘arm-wrestling’. Fe fuon ni’n
hefyd yn gwneud astudiaeth feiblaidd gan
ganolbwyntio ar arweinyddiaeth Josua.
Ar brynhawn dydd Sadwrn, wnaethon ni ddianc o’r
glaw a mwynheuon picnic ar y traeth yn Harlech;
er gwaethaf y tywydd oer, treuliodd grwp o
fechgyn hanner awr yn y mor tra wnaeth grwp
arall palu twll enfawr yn y tywod! Yn ol yng
Ngholeg y Bala, cynhaliwyd twrnament pwl a
tennis bwrdd a gwylion ni ffilm gyda’n gilydd yn
y nos. Ar y bore Sul roedd na gyfle i fyfyrio ar
yr hyn o ni wedi dysgu dros y penwythnos. Trwy
feddwl am yr Israeliaid yn aros i fynd i mewn i
wlad yr addewid, meddylion ni am sut mae Duw
eisiau ni gyrraedd gwlad yr addewid, sef y
nefoedd, a sut mae hwnna yn bosib trwy
farwolaeth Iesu ar y groes.
Ar y 12fed- 14ed o Fai, roedd na gyfle i blant
Cheshire, Flint a Dinbych i ddod i Goleg y Bala
am y penwythnos. Roedd Meryl Walters a Fi yn
arwain y cwrs o’r enw ‘Time Flies’; a oedd ar
ffurf Dr Who. Wnaethon ni gychwyn ar ddydd
Gwener trwy teithio’n ol trwy hanes- gyda help y
peiriant amser, ‘y Cloc Mawr’- i amser Joseff
a’i frodyr. O’r ddechrau, wnaeth y blant cael eu
rhannu rhwng pedwar timau (cloc digidol, cloc
larwm, cloc tywod a cloc haol) a roedden nhw’n
cael eu hanog trwy’r penwythnos i gasglu munudau
(fel pwyntiau). Enillwyd y munedau trwy gymryd
rhan mewn gemau, cwisiau, dawnsio (‘Walk Like an
Egyptian’ oedd ein ‘theme tune’ ni!) a thrwy
weithgareddau eraill.
Yn ystod sesiynau ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn,
roedd rhaid i bob tim casglu ‘allweddi amser’ a
oedd yn perthnasu i ran o’r stori. Ar bore Sul,
wnaeth Meryl son am y pedwar symbol (cot lliwgar
Josef, GLASS o win, darn o fara ac allwedd), a
sut roedden nhw’n berthnasol i hanes yr Iesu.
Roedd yr amser hwn yn bwysig iawn, yn arbennig
achos welon ni’r ddolen rhwng bywydau y dau
ddyn.
Yn ogystal a’r sessiynau llawn action, wnaethon
ni fwynhau gemau parasiwt, a thaith i’r ganolfan
hamdden a’r ffilm ‘Cheaper by the Dozen 2’ ar
nos Sadwrn. Gwrandawodd y plant yn dda iawn
trwy’r penwythnos a wnaethon nhw ymateb yn dda
hefyd; a dw i’n siwr cafodd yr arweinwyr amser
gwych hefyd!
Ar y 19-21 Mai gwelwyd criw o Gwyr yn dychwelyd
unwaith eto i Goleg y Bala. Cafodd tim Coleg y
Bala y cyfrifoldeb o edrych ar ol y plant a’r
ieuenctid tra wnaeth Jonathan Hodgins arwain
sesiynau yr oedolion. Ar ol swper a tro bach,
doedd na ddim ond amser i gael epilog cyn bod y
mwyafrif o bobl yn barod i fynd i’r gwely. Ond
roedd pawb yn hollol effro ar fore Sadwrn pan
dechreuon ni gyfres o dwy sessiwn. Tra edrychodd
yr oedolion ar y thema o fod yn sanctaidd,
wnaethon ni (y plant a’r bobl ifanc)
ganolbwyntio ar Samuel a’r pwysigrwydd o wrando
ar lais Duw. Gwnathon ni gychwyn gyda gem o
‘pass the parcel’; a roedd na adnod Beibl rhwng
pob papur yn son am ein gwerth yn llygaid Duw.
Meddylion ni am y bwysicrwydd gweddio, gan
edrych yn benoldol ar weddi Hanna am blentyn. Yn
ein ail sesiwn gyda’n gilydd, wnaethon ni
ffoniau allan o gorden a chwpannau plastig.
Roedd e’n bwysig i un person siarad yn glir, a’r
person arall i wrando yn ofalus.
Yn y prynhawn, roedd na ddewis o weithgareddau.
Tra wnaeth mwyafrif o’r oedolion fwynhau ychydig
o oriau ym Mhetws y Coed, penderfynodd y plant
mynd i nofio a cael helfa drysor trwy strydoedd
Y Bala! Ar ol cael swper, wnaeth y plant ymarfer
caneuon am y gwasanaeth bore Sul, tra wnaeth yr
oedolion parhau i edrych ar fyw yn sanctaidd.
Gwyliodd pawb ffilm gyda’n gilydd cyn gwely.
Gwnaeth Bryn arwain y gwasanaeth ar fore Sul,
oedd yn canolnwyntio ar Samuel yn eneinio Dafydd
fel brenin newydd Israel. Cymerodd y plant rhan
mewn scets bach a oedd yn dangos fod pobl yn
edrych ar yr hyn sydd ar y tu allan, ond fod Duw
yn edrych ar ein calonau. Mwyneuon ni ganu
gyda’n gilydd; ac yn arbennig, y gan ‘Dance of
the Trinity’ a oedd yn boblogaidd iawn!
Ar ol cinio, roedd hi’n amser i bawb orffen eu
pacio cyn i’r bws adael. Gwnaeth lot o
berthnasau gael eu hadeailadu trwy’r penwythnos,
a roedd pawb yn cael eu hatgoffa i wrando ar
lais Duw.
Rebecca Perry
|