|
Cwrs Ieuenctid
Bu’r cwrs dwyieithog yma’n amser prysur a bywiog
gydag ieuenctid o bob rhan o Gymru yn dod i
Coleg y Bala am yr wythnos. Siôn oedd yr arwain,
gyda chymorth Rhun, Gethin, Esyllt a fi. Fe fuom
yn edrych ar yr Eglwys Fore yn ogystal â mwynhau
llu o weithgareddau, addoliad a chymdeithasu.
Yn gyntaf fe edrychom ar neges Iesu i’w
ddisgyblion yn Ioan 14, lle mae’n rhybuddio y
bydd yn rhaid iddo Ef eu gadael ond y bydd yn
anfon cynorthwywr, sef yr Ysbryd Glân. Yna,
cawsom olwg ar ddigwyddiadau’r Pentecost –
addewid Iesu’n cael ei gyflawni a’r Ysbryd yn
disgyn ar y disgybion mewn ffordd rymus iawn.
Helpodd hynny hwynt i rannu gyda’r bobl oedd yn
gwrando, beth bynnag am eu hil a’u hiaith, yr
hyn a ddigwyddodd i Iesu a pham roedd yn rhaid
iddo farw ar y groes. Golygodd hynny fod dros
3,000 o bobl wedi edifarhau, gofyn am faddeuant,
a dod i gredu yn atgyfodiad Iesu Grist.
Soniodd Rhun am sut gallwn ni ofyn am yr Ysbryd
Glân ar unrhyw bryd – i’n helpu i ddeall y Beibl
yn well, i roi sicrwydd yn ein calonnau ac i roi
cryfder inni ar adegau anodd.
Cawsom hwyl wrth gyflwyno hanesion o lyfr yr
Actau mewn ffyrdd gwahanol – drwy gyfres o
luniau, clipiau fideo a sioe bypedau! Edrychodd
un grŵp ar hanes Pedr a Ioan yn iachàu’r
cardotyn, grŵp arall ar ymateb yr arweinwyr
crefyddol i wyrthiau’r apostolion, a’r trydydd
grŵp ar hanes Steffan yn cael ei labyddio. Roedd
pob hanes yn dangos y ffordd bwerus roedd Duw ar
waith gyda’r Apostolion, a sut roedden nhw’n
barod i beryglu’u bywydau, a’i golli yn achos
Steffan, dros yr Arglwydd Iesu.
Rhywbeth arall y cawsom olwg arno oedd y newid
ym mywyd Paul. Roedd yn arfer erlid y
Cristnogion cynnar yn filain, ond roedd gan Duw
gynllun ar ei gyfer ac ar ôl ei droedigaeth
daeth yn athro ac arweinydd pwysig.
Ar wahân i’r dysgu, cawsom lawer o weithgareddau
hefyd – gêm wych o bêl-droed yn y Ganolfan
Hamdden, mynd am dro yn yr haul o amgylch y
llwybrau ger y Bala...ond y gweithgaredd sy’n
aros yn fwyaf amlwg yn y côf ydi’r trip beicio i
Feddgelert. Aeth un o’r arweinwyr (a gaiff aros
yn ddienw – paid â phoeni, Gethin) ar goll yn y
mynyddoedd, a bu’n rhaid treulio oriau’n chwilio
amdano. Ond doedd hyn ddim yn ddrwg i gyd,
oherwydd datblygodd i fod yn ddameg am sut mai
Iesu ydi’r unig ffordd i Fywyd, a bod pob llwybr
ond Ef yn mynd â ni i’r lle anghywir.
Roedd yn wych gweld ieuenctid o bob cefndir ac
o’r ddwy iaith yn cymysgu’n naturiol, ac yn cael
amser da wrth ddysgu am yr Efengyl.
Guto Dafydd
|