|
Pwy Fuodd Yma, Hydref
2006
Penwythnos St Thomas
Dyma rhai
lluniau o benwythnos
St.Thomas’s a fu yma ar y 15-18fed o
Fedi:
Cwrs Ieuenctid
Ar y 22ain o
Fedi
daeth 32 o Ieuenctid atom o bob cwr o Ogledd
Cymru. Ar y nos Wener, yn dilyn cyfres o gemau
bywiog aethom ar daith braf lawr i ymyl y Llŷn,
ac yna epilog. Ond er bod rhai yn barod i gysgu
yn syth, dim dyna ddiwedd y noson o bell ffordd
wrth i’r swn siarad a’r sgwrsio barhau hyd oriau
man y bore! Roedd y bechgyn o leiaf wedi cael
noson dda o gwsg ac yn barod am ddiwrnod llawn o
weithgareddau. Yn ystod y sesiynau fe wnaethom
rannu’n grwpiau i drafod Troedigaeth Saul ac i
edrych ar y ffordd y newidiodd Duw ei fywyd. Yna
roedd pob grwp yn gorfod cyfleu yr hyn
ddigwyddodd i Saul/Paul trwy gyfres o luniau-
cawsom hwyl yn edrych ar y rhain ar fore dydd
Sul! Ar ôl nofio yn y prynhawn, cawsom gem
gystadleuol o Rownderi. Yn ystod y gwasanaeth
bore dydd Sul cawsom sgets wedi ei selio ar y
rhaglen teledu ‘Trinny and Susanna’ ac yna
edrychwyd ar y ffordd y mae’r hyn wnaeth Iesu
drosom yn gallu newid ein bywydau yn gyfangwbwl.
Cyn i ni sylweddoli, roedd yn amser i bawb
gyfnewid rhifau ac ebyst, ac i fynd adre i gysgu
am y prynhawn!
|