www.colegybala.org    

 

  Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Gwybodaeth am y Coleg

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Pwy Fuodd Yma 3

   

Pwy Fuodd Yma, Ionawr a Chwefror 2007

 

26ain – 28ain Ionawr:  Plant Dyffryn Clwyd a Llanberis

 

“Antur Amser” oedd thema y penwythnos llawn hwyl yma gyda phlant o Dyffryn Clwyd a Llanberis.  Ar y nos Wener, mi wnaethom deithio’n ôl mewn amser i ddysgu am Joseff a’r drygioni a wnaeth yng Nghannan a’r Aifft.  Trwy gydol y cwrs, roedd y timau yn gorfod gwynebu ambell i her er mwyn sgorio pwyntiau i’w tîm.  Cawsom hefyd y pleser o gyfarfod Cadwaladr y Camel, oedd yn talu ymweliad â ni yma yn y y Coleg, er mwyn ceisio ein helpu i ddysgu am Joseff.

 

Bore Sadwrn, mi wnaethom barhau gyda stori Joseff a hefyd dysgu caneuon newydd.  Roedd rhai cyfleoedd trawiadol wrth geisio sialens y cwpan pyramid, dwi’n siwr roedd mwy o hwyl yn ei gael wrth eu taro i lawr na’u codi i fyny!  Ymhellach ymlaen yn y bore, mi wnaethom gyfarfod Cadwaladr unwaith eto a’i broblemau poeri, a dywedodd mwy wrthym am Joseff a rhoi prawf i ni gyd gyda’i cwis camel.

 

Rhiân Barret

 

 

 

English

 
 

This page was updated on 25/04/2008