www.colegybala.org   

 

      Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Newyddion

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Ysgol Sul / Clwb y Mis 3

   

Ysgol Sul / Clwb y Mis
 

YSGOL SUL RHYDBACH

 

Helo bawb,

Wel dyma ni criw Ysgol Sul Rhydbach ym Motwnnog, Pen Llŷn.  Bob bore Sul am hanner awr wedi naw ryda ni’n cyfarfod yn y Festri.  A Festri werth chweil ydi hi hefyd - do wir, Medi 2003 fe gawsom ni garped newydd moethus ag ail beintio hefyd mewn lliwia “peach” a teracota. Rhagfyr 2004 diflannodd y meinciau trwm pitch pein (heblaw am ddwy bob ochor) a chafwyd cadeiria cyfforddus yn ogystal a chadeiria  a byrddau bach i’r plant lleiaf.  Mae hyn yn grêt -  yn enwedig pan yda ni isho chwarae gemau ag actio ag ati gan eu bod mor hawdd i’w clirio i’r naill ochor.  Mae hyd yn oed  yr oedolion hynaf i’w weld wedi eu plesio pan fyddant yn mynychu oedfaon gyda’r nos!!

 

Tua 25 o blant sydd yna - llawer ohonynt o’r un teulu! Mae yna ddau deulu o 4 ag un o 3( a mwy i ddod yn hwn!)

 

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur hyd yma - cafwyd sesiynau da iawn yn ystod yr Hydref wrth ddilyn llyfr gwersi Gwyn Rhydderch - “Iesu’r Ffrind”. Bu’r athrawon Anti Enid (dynas y piano a’r canu), Anti Dilys (y Bos - neu Arolygwr a deud y gwir) ag Anti Rhian ( pwy?) yn  gneud y gwersi fesul un ag yn cymryd yr Ysgol Sul i gyd gyda’i gilydd yn hytrach na rhannu i ddosbarthiadau oed.  A bu Anti Gwyneth (sy’n hoff iawn o’r Cola Bottles fyddwn ni’n cael cyn mynd adre!) yn edrych ar ôl y plant lleiaf.  Mwynhaodd pawb yn fawr yn enwedig y gem “Yn y môr/ ar y lan”. Profodd Elain a Lora yn anodd iawn i’w trechu yn y gem yma! Roedd dysgu am Iesu yn hwyl! Daeth Anna Jen o’r Cymorth Cristnogol atom ni i gynnal gwasanaeth Diolchgarwch. - ag fe glywsom ni i gyd pam mor bwysig ydi hi i brynu nwyddau Fair Trade.

 

Drama am ddyn o’r enw Dafydd Smith, cogydd mewn gwesty moethus oedd y Gwasanaeth Nadolig. Helpodd Dafydd lawer o bobol dlawd a digartref ar Noswyl Nadolig a derbyn bendith fawr o hyn.  Gwnaeth y plant eu gwaith yn ardderchog ac roedd y gynulleidfa wedi mwynhau ac wedi dysgu gwers syml hefyd gobeithio.

 

Wel roedda ni’n drist iawn pan naetho ni ddychwelyd i’r Ysgol Sul ym Mis Ionawr - roedd pawb yn son am drychineb y Tswnami. Roedda ni i gyd wedi cael Nadolig da - digon o anrhegion, bwyd da, a chyfle i fwynhau efo’n teuluoedd a ffrindiau - ac roedd hyn yn rhoi rhyw gwmwl du uwch ein pennau.  Felly fe benderfynodd y plant wneud taith gerdded i godi arian i helpu’r bobol oedd wedi diodda. Geshwch be - casglwyd dros £600! Da te - diolch i bawb o’r ardal wnaeth gefnogi’r plant.

 

Bu criw o’r genod yn cynnal gwasanaeth mewn Cartref Henoed yn Llanbedrog hefyd yn ystod mis Ionawr - a chael llwyth o focsys siocled am eu hymdrech!

 

Wel dyna chi ein hanes ni’n fras. Ryda ni’n edrych ymlaen am gael darllen am Ysgolion Sul eraill yn y dyfodol - a chofiwch - galwch os yda chi’n pasio!

 

Hwyl fawr

Rhian

 


 

English

 
 

This page was updated on 13/01/2006