|
Ysgol Sul / Clwb y Mis
Ysgol Sul
Llansannan
Dyma adroddiad o'r hyn fuodd Ysgol Sul
Llansannan yn ei wneud yn ystod dathliadau'r
Cynheuaef:
Bob blwyddyn ym mis Hydref rydym yn cynnal Oedfa
Deuluol i ddiolch i Dduw am ei fendithion trwy
gydol y flwyddyn.
Mae plant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan yn y
Gwasanaeth gyda pob dosbarth yn diolch am
rhywbeth penodol.
Diolch am anifeiliaid oedd testun y plant
lleiaf: diolch am fwyd a ddillad wnaeth plant 5
a 6 oed, a roedd y plant oed 7,8 yn diolch am
deulu a chartrefi.
Mae adeg diolchgarwch hefyd yn amser i gofio am
rhai sydd mewn angen. Eleni, penderfynnwyd
cefnogi’r mudiad Operation Christmas Child, a
roedd hi’n braf iawn gweld y plant yn dod a’u
bocsys yn llawn o bethau bach deniadol.
Cyflwyniad ar waith OCC oedd gan ddosbarth y
bobl ifanc, wedi’i selio ar DVD a gynhyrchwyd
gan OCC. Roedd y cyflwyniad yn ffordd effeithiol
dros ben i’n helpu i syweddoli y tlodi a’r
anghenion sydd gan y plant mae OCC yn ceisio eu
gyrraedd.
“Carwen yw fy enw i . Dwi’n mynd i’r Ysgol Sul
Undebol yn Llansannan. Dwi’n 11 mlwydd oed.
Roedd fy nosbarth i yn brysur iawn ar Sul
Diolchgarwch. Roedd rhai ohonom yn chwarae
offerynnau i’r emynau – mi wnes i chwarae’r
allweddellau. Roeddwn ni’n ceisio atgoffa pobl
pa mor bwysig yw hi i wrando ar Iesu Grist ac i
roi yn hael i eraill. Darllenom ni hanes Iesu yn
bwydo’r 5000 a gwnaethom sgets am y ddau ddyn yn
adeiladau tai – un ar y graig ac un ar y tywod.
Os oedd pawb yn gwrando ar Iesu ac yn rhoi yn
hael byddai llawer o pobl tlawd y byd yn derbyn
cymorth. “
Ar ol y gwasanaeth arhosodd pawb i gael cinio
gyda’n gilydd – amser i ymlacio a fwynhau cwmni
ein gilydd. Eleni, dros cyfnod y Diolchgarwch
rydym wedi cefnogi’r elusen Ambiwlans Awyr a’r
elusen “Save the Family” trwy gasglu bwydydd
sych a thuniau.
Roedd 60 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn
y Gwasanaeth Diolchgarwch. Roedd hi’n galonogol
iawn i weld y capel yn llawn o rieni, ffrindiau
ac aelodau.
Ein gweddi yw y bydd calon pob un yn gwneud
amser bob dydd i ddiolch i Dduw am ei ddaioni,
am ei drugaredd ac am ei gariad tuag atom yn yr
Arglwydd Iesu.
|