|
Ysgol Sul / Clwb y Mis Rhagfyr 2005
C.I.C Llŷn
Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd criw Coleg
Bala yn ystod y cyfarfodydd llynedd braf oedd
cael eu croesawu yn ôl i roi “cic start” (sori!)
i’r gweithgareddau eleni eto. Daeth 26 o bobol
ifanc ynghyd i Neuadd Sarn ar gyfer y noson
agoriadol a chafwyd noson hwyliog dros ben. Amal
i un yn edrych rêl Wali yn flawd dros eu
hwynebau ar ôl chwarae gêm “Cacan Flawd”. Mewn
gêm arall - rhai hyd yn oed ddigon gwirion i
gredu mai dim ond 31 oed ydi Gwyn Rhydderch! Ond
y gêm am y noson oedd rhyw fath o hoci efo balŵn
a phastwn papur newydd – pawb yn cael cyfle a
phawb yn ymdrechu’n galed iawn – gan fyrstio
sawl balŵn yn y broses. Roedd llond lle o fferis
ar werth ag ar ddiwedd y noson cafwyd rhes o
gwestiynau lle roedd pawb yn gorfod dewis rhwng
dau beth e.e. MacDonalds neu Pizza, Coronation
Street neu Eastenders, ennill y loteri neu bod
yn Gristion. Roedd hyn yn annog pawb i feddwl am
y dewisiadau bach a mawr ryda ni’n gorfod wneud
bob dydd yn ein bywydau a chafwyd cyfraniada gan
nifer o’r criw oedd yn ychwanegu at y sylwada
roedd Sion am eu rhannu efo’r Clwb . Plannu
hedyn ag agor meddylia ydi rhai o amcanion y
Clwb ag yn sicr llwyddwyd i wneud hyn mewn noson
ddifyr a hwyliog.
Gemau yn y Tywyllwch
Mae yna arddwyr ac mae yna arddwyr yn does.
Mae 'na rai sydd yn treulio oriau maith yn trin
a thocio, yn torri a thrimio i gael yr ardd yn
edrych yn berffaith. Mae yna rai eraill wedyn
sydd yn gwahodd ugain o bobol ifanc yn eu
harddegau yno i neud y gwaith drostynt. Rhai
felyna’ ydi garddwyr y Rheithordy ym Motwnnog.
Ia a geshwch be, garddio yn y tywyllwch, yn y
glaw efo ambell fflach lamp dila oeda nhw’n
neud. Rhyw fath o effaith lefelu’r cyfan
“fwldosyr - aidd” gafwyd ar yr ardd. Taranwyd
drwy lwyni (yn llythrennol) rowliwyd ar berthi a
gwthiwyd y gwelltglas yn ôl i’r mwd. Rhyw fath o
gorwynt corfforol. Dwi’n gallu deud eich bod chi
wedi drysu’n lân erbyn hyn a heb yr un syniad am
be dwi’n mwydro. Wel Gemau yn y Tywyllwch siŵr -
dyna be oedd noson C.I.C ddiwedd Tachwedd - yng
ngardd y Rheithordy. Wedi chwilio am gliwiau fel
helfa drysor, bloc 123, tagio a gemau cyffelyb
roedd yr oedolion angen paned boeth, y criw
ifanc wedi cael andros o hwyl, a’r ardd - wel -
yn fflat. (Handi iawn medda Lis !) Plethwyd y
neges am y tywyllwch ar goleuni i mewn i’r cyfan
yn gelfydd iawn gan Robert Morfa Nefyn ar y
diwedd.
Rhian Parry
|