|
Ysgol Sul / Clwb y Mis Ionawr 2006
Ysgol Sul Trefor, Caernarfon
Un Ysgol Sul sydd yn Nhrefor bellach a honno’n cyfarfod yn
festri capel Maesyneuadd, yr Annibynwyr am 2pm.
Mae croeso i holl blant y pentre yno - mae gan
rai o’r plant gysylltiadau teuluol ag eglwysi
Gosen (P) a Bethania (B) ac mae rhai plant heb
gysylltiad â’r un o eglwysi pentref. Mae
cysylltiad y rhan fwyaf o blant Maesyneuadd â’r
eglwys yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth.
Tuag 20 o blant sydd ar lyfrau’r Ysgol Sul ac maen nhw’n
hynod o ffyddlon. Gan mai ychydig dros 40 o
blant sydd yn ysgol gynradd y pentre ar hyn o
bryd, mae hyn yn gyfran reit dda.
Ar ôl canu emyn i gyfeiliant Anti
Eirlys ar y piano, adrodd Gweddi’r Arglwydd ac
“O! Arglwydd cofia blant ein gwlad”, mae pawb yn
cael stori ar thema gwers yr wythnos. Mae
gwersi
www.Sermons4Kids.com ac
www.OnlineRev.com sy’n
cyrraedd trwy'r e-bost bob wythnos yn
ddefnyddiol iawn. Byddwn yn ceisio gwneud
rhywbeth gwahanol a chofiadwy yn y rhan hon o’r
wers – plannu hadau berwr dŵr wrth sôn am yr
heuwr yn hau, actio hanes y Mab Afradlon,
chwarae gêm berthnasol, glynu darnau defnydd
lliwgar ar lun mawr o Joseff, cael y plant i
chwistrellu dŵr ar dai (cwpanau papur) ar garreg
ac ar dywod mewn desgil olchi llestri. Mae’r
plant yn ymateb yn ardderchog.
Ar ôl y stori, mae pawb yn mynd i’w dosbarthiadau. Anti
Beryl sy’n gofalu am y plant lleiaf ac maen nhw
wrth eu bodd yn lliwio, paentio ac ati.
Mae’r dosbarthiadau eraill yn dilyn
gwersi amserbeibl y Cyngor Ysgolion Sul
ac yn gwneud defnydd hefyd o’r syniadau,
tudalennau lliwio ac ati sydd i’w cael yn
www.io.com/~lcowper/resources.html.
Mae gennym bump athro i gyd ond bod Yncl Robin yn methu dod
oherwydd salwch ar hyn o bryd. Felly, mae’r
dosbarthiadau’n eithaf bach a hwylus. Gan Anti
Jean mae’r dosbarth mwyaf, saith ar hyn o bryd.
Mae pedwar o’r athrawon wedi bod yn y gwaith ers
blynyddoedd ac un, Anti Siân, yn newydd ers
blwyddyn.
Bob blwyddyn, mae’r Ysgol Sul yn cydweithio ag Ysgol yr
Eifl i gasglu bocsys sgidiau o dan y cynllun
Operation Christmas Child. Eleni, casglwyd 91
bocs. Cafodd yr Ysgol Sul £40 eleni hefyd trwy
werthu cardiau Nadolig y Cyngor Ysgolion Sul.
Er mai Eglwys Annibynnol yw Maesyneuadd, rydym yn aelodau o
Gynllun Plant ac Ieuenctid y Presbyteriaid a
thrwy hynny cawn nifer o fanteision. Mae rhai
o’r plant wedi elwa'n fawr ar y cyfle i fynd i
Goleg y Bala. Edrychwn ymlaen at fwynhau'r
ffilm The Lion, the Witch and the Wardrobe
ym Mhwllheli a’r gweithgareddau cysylltiedig cyn
hir ac mae rhai o’r plant hŷn am fynd i
gyfarfodydd Clwb Ieuenctid Cristnogol Gogledd
Llŷn yn Festri Capel Llithfaen bob pythefnos o
hyn ymlaen.
Byddwn yn mynd i Gymanfaoedd Canu’r Annibynwyr yn Nosbarth
Pwllheli (y Gymanfa Bach) a Llŷn ac Eifionydd (y
Gymanfa Fawr) bob blwyddyn. Eleni, yn lle
cynnal y Gymanfa Bach, penderfynwyd mynd ar
daith i ganolfan awyr agored y Gelli Gyffwrdd
ger y Felinheli a chael gwasanaeth yno. Edrychwn
ymlaen yn fawr.
Rhai pwyntiau, wrth i ni edrych ymlaen i'r dyfodol:
Mae gobaith y cawn Weithiwr Cristnogol Cymunedol ar gyfer
pentref Trefor cyn hir. Bydd gweithio gyda
phlant yr Ysgol Sul yn rhan o’i (g)waith.
Mae cynlluniau ar y gweill i wella cegin y festri a chael
toiled dan do. Bydd hyn yn gwneud pethau’n fwy
hwylus o lawer i ni.
Rydym yn gobeithio cael gwared â hen feinciau trwm y festri
cyn hir a chael byrddau a chadeiriau yn eu lle.
Bydd yn haws symud y rhain i chwarae gêmau ac
ati.
Rhaid i ni wneud y defnydd gorau o’r
doniau sydd gennym yn yr Ysgol Sul. Er
enghraifft, mae Nia, sy’n 14 oed, yn arlunydd
dawnus ac mae amryw o’r lleill â lleisiau
swynol.
|