www.colegybala.org   

 

      Coleg y Bala

 

 Cysylltu a Ni   

 

Hafan

Lleoliad y Coleg

Staff y Coleg

Rhaglen y Coleg

Trefnu Cwrs i'r Coleg

Canllawiau Rhieni

Blwyddyn Gap

Newyddion

Pwy Fuodd Yma?

Ysgol Sul / Clwb y Mis

Hyfforddi Ieuenctid - Souled Out

Pwyntiau Gweddi

Diogelwch Plant

Cyfleoedd Hyfforddiant

Adnoddau a Syniadau

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Ysgol Sul / Clwb y Mis 3

   

Ysgol Sul / Clwb y Mis Mehefin 2006
 

Ysgol Sul Parc

Er mai bach yw'n ein Ysgol Sul, mae'n Ysgol Sul fywiog iawn. Cynhelir Ysgol Sul drwy'r flwyddyn yn y bore rhan amlaf, ond weithiau byddwn yn cyfarfod yn y pnawn. Mae ystod oed y mynychwyr yn eang yr ieuengaf yn ddwyflwydd a hanner a'r hynaf wel dwi ddim yn mynd i ddweud rhag ofn pechu yn erbyn rhywun.

Mae yna bedwar dosbarth, sef dosbarth y plant o 2½- 11 oed, dosbarth ieuenctid, dosbarth yr oedolion ifanc a dosbarth yr oedolion hyn. Bydd oddetu dau ddeg pump yn mynychu'r Ysgol Sul bob dydd Sul.

Yn yr Ysgol Sul rydym yn cael cyfle i wneud gwahanol bethau, cynhaliwyd noson i godi arian at Tsunami pryd roedd y plant hynaf yn cael eu noddi i fod yn ddistaw am awr tra roedd y plant iau yn arddurno bisgedi yn barod i'w bwyta hefo paned ar ddiwedd y noson. Codwyd £400 tuag at yr apêl. Bob blwyddyn bellach mae criw o ieuenctid o'r Almaen sydd yn aros yn Coleg y Bala yn ymuno â ni mewn gwasanaeth ar fore Sul a bydd cyfle i bawb gymdeithasu a'i gilydd ar y diwedd y gwasanaeth.

Ar y dydd Sul cyn y Nadolig dechreuir y gwasanaeth gyda perfformiad o ddrama fach gan blant yr Ysgol Sul, yna bydd pawb yn ymuno i ganu Carolau a gorffennir gyda phaned a mins pei i bawb. Y plant fydd yng ngofal y gwasanaeth bach i gloi'r Ysgol Sul ar ddydd Sul y Pasg hefyd, a chyn mynd adre bydd y plant yn rhannu wyau pasg i'r gynulleidfa, cyn derbyn rhai eu hunain.

Roedd yn arferiad yn Parc hyd yn ddiweddar i Wasanaeth fore y Nadolig gael ei gynnal mewn beudy ar gyrion y pentre, ac roedd yna naws arbennig iawn yno, byddem yn clywed ambell i brefiad ac roedd yn gwneud i ni feddwl am enedigaeth Iesu Grist yn y stabl. Byddai y plant bob amser yn dod ag un o'u hanrhegion Sion Corn hefo nhw i ddangos hefyd. Bellach yn y capel rydym yn cael y gwasanaeth

Gan fod ein Gofalaeth ni yn cynnwys 6 eglwys bydd ein Gweinidog, Parch Cath Williams yn trefnu gweithgareddau i'r plant a gwasanaethau i'r teulu ar y cyd ar amser arbennig o'r flwyddyn. Yn ogystal bydd Clybiau Gwyliau yn cael ei cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol, hefyd yn ystod yr haf rydym yn cynnal diwrnod o chwaraeon a baberciw. Mae'r plant wrth ei bodd yn dod at ei gilydd i gymeryd rhan yn y gwahanol weithgareddau.

 

   
   

 

English

 
 

This page was updated on 25/07/2006