Rhaglen y Coleg
Mae'n bosib archebu arlein ar gyfer y cyrsiau canlynol:
MIRI MAI : 4-6 o Fai - Cliciwch yma i archebu eich lle heddiw.
MIRI MEHEFIN 8-10 o Fehefin - Cliciwch yma i archebu eich lle heddiw
Mae 'Miri Mai' a 'Miri Mehefin' yn benwythnosau i blant 8-11 oed ac yn benwythnosau llawn hwyl, gemau gwirion, gweithgareddau, crefft, canu, ymlacio yn y 'stafell chwaraeon, nofio, gwylio ffilm ac yn gyfle i ddysgu mwy am Iesu Grist. Bydd yn amser braf i dreulio yng nghwmni hen ffrindiau a'n gyfle i wneud ffrindiau newydd. Cosy y penwythnos yw £63 sy'n cynnwys y bwyd, llety a'r holl weithgareddau. Mae'n hanner pris i'r 2il/3ydd plentyn o'r un teulu.
DISGLAIR 15-16 o FEHEFIN - Archebwch eich lle heddiw yma
Siaradwyr: Sian Wyn Rees, Cath Woolridge ac Ali Roberts
Rydym yn eich gwahodd i ymuno a ni ar benwythnos 'Disglair' : Digwyddiad i ferched o bob oed o 15 oed i fyny. Bydd yn amser i ddod at ein gilydd ac i annog ein gilydd i geisio Iesu ac i gredu y gallwn drawsffurfio ein cymunedau gyda'i gariad Ef. Ni'n edrych ymlaen i addoli, dysgu o air Duw ac i'w anrhydeddu drwy ein bywydau. Ymunwch â ni i ni gael ein harfogi i wneud gwahaniaeth.
Os nad yw'n bosibl i chi archebu arlein neu os oes gennych chi unrhyw gwestiwn plis cysylltwch gyda ni ar colegybala@ebcpcw.org.uk / 01678 520565 i ni bostio copi o'r ffurflen gofrestru atoch chi.
Ni ddylir talu am gwrs fod yn rwystr i unrhywun ddod - am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda'ch arweinydd lleol neu gyda Angharad yn Coleg y Bala.
Am amodau defnydd o luniau cliciwch yma.
Os hoffech chi drefnu cwrs yng Ngholeg y Bala, beth am gael golwg ar y dudalen Aros Gyda Ni yna cysylltu â ni?