Blwyddyn Gap

Activities at Coleg y Bala

Beth ydy BLWYDDYN GAP?

Mae BLWYDDYN GAP yn gwrs ymarferol mewn magu disgyblion sy'n para blwyddyn (Medi-Awst) ac wedi ei leoli yng Ngholeg y Bala, Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Amcanion

Amcanion BLWYDDYN GAP yw:

  • annog datblygiad personol ac ysbrydol
  • ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
  • cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a'i botensial
  • datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
  • cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i'r Eglwys.

Cyfrifoldebau

Mae myfyrwyr yn cael cyfleon i brofi a bod yn rhan o'r gwahanol weithgareddau sy'n ymwneud â gwaith Coleg y Bala. Mae hyn yn cynnwys: 

  • paratoi a chyflwyno Cristnogaeth i blant ac ieuenctid mewn ffordd berthnasol a chyfoes ar gyrsiau penwythnos, haf a chanol-wythnos
  • mynychu cyfarfodydd tîm: cymryd rhan yng ngwasanaeth dyddiol y ganolfan ac arwain yn achlysurol
  • cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y ganolfan fel bo'r angen.

Mae cyfleon i'r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau plant ac ieuenctid tu allan i Goleg y Bala hefyd; rhai sy'n cael eu cynnal gan rai o weithwyr eraill Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae hyn yn cynnwys paratoi a chymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:

  • clybiau plant ac ieuenctid
  • grwpiau canolog Souled Out
  • gwasanaethau mewn ysgolion
  • cenhadaeth leol
  • ysgolion Sul
  • gwasanaethau boreol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
  • undebau Cristnogol

Caiff y myfyriwr gyfarfodydd rheolaidd gydag aelod parhaol o'r staff er mwyn archwilio'r dyddiadur a threfnu rhaglen waith addas.

Profiad o weithio mewn meysydd eraill

Yn ystod y flwyddyn, caiff y myfyriwr gyfle i weithio gydag arweinwyr neu weithwyr eglwysig mewn ardaloedd eraill. Yn ddibynnol ar leoliad, caiff y myfyriwr brofiadau amrywiol o weithio gyda phlant ac ieuenctid, ysgolion, oedolion a theuluoedd, yn ogystal â chyfle i ddatblygu ei ddealltwriaeth o rai agweddau ar waith bugeiliol ac arweinyddiaeth.

Dysgeidiaeth Feiblaidd a diwinyddol

Er mwyn dyfnhau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth feiblaidd pob myfyriwr, bydd pob myfyriwr yn treulio amser bob wythnos yn astudio'r Beibl a diwinyddiaeth. Mae'r rhaglen yn ymdrin â phynciau fel Trosolwg o'r Beibl, Dehongliad Beiblaidd, Athrawiaeth a Hanes yr Eglwys. Bydd y myfyriwr yn cael ei asesu'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Cwnsela

Bydd pob myfyriwr yn derbyn cwnsela unigol yn ystod y FLWYDDYN GAP. Amcan y broses hon yw cefnogi duwioldeb a chymeriad Cristnogol pob myfyriwr.

 

Diddordeb?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fyfyriwr BLWYDDYM GAP, cysylltwch â Choleg y Bala am wybodaeth bellach.