Newyddion a Gweddi

Pwyntiau Gweddi:Mai 2012

 Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.”Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.” Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam. Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi ei addo iddo. Yn wir roedd yn credu'n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo'i wneud. Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw!

Rhufeiniaid 4:18-22

Y Coleg.

  1. Os gwelwch yn dda wnewch chi weddïo dros ein Cwrs Priodas? Gweddïwch y bydd y gwragedd yn cael eu hannog i weithio ar eu perthynas a’u gwyr ac y byddem yn gallu esbonio’n syml beth mae Duw yn ei ddweud am briodas. 
  2. Gweddïwch dros y staff wrth i ni ddechrau trefnu cyrsiau’r haf.  Os gwelwch yn dda gweddïwch y bydd Duw’n ei hysbrydoli ac yn ganolog wrth i ni gynllunio.
  3. Gweddïwch dros y penwythnosau canlynol yn y Coleg:

                  4-6         Penwythnos Gwerthfawr

11-13     Gofalaeth Gŵyr

25-27     Ynys Môn a Chaernarfon.

 

Parchg Gwyn RhydderchCyfarwydd y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid

1.    8: Clwb pobl ifanc Llanrwst

2.    9: Sasiwn y De

3.    11-13: Gofalaeth Tre Gwyr yn y Coleg

4.    18: Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth

5.    20: Pregethu Uwchmynydd a Llithfaen

6.    23: Hyfforddiant Yr Wyddgrug

7.    25-27: Plant Môn a Chaernarfon yn y Coleg

29: Llanelli – Noson mewn Henaduriaeth. (Gweler yr atodiad)

Nia Williams-Swyddog Addysg ac Adnoddau

  1. Ysgolion: Byddaf yn ymweld â’r ysgolion canlynol yn ystod y mis, a buaswn yn ddiolchgar pe taech yn gweddïo am ryddid ac arweiniad i mi gyflwyno’r Newyddion Da am Iesu yn addas a chlir, ac y bydd yr Arglwydd yn cyffwrdd calonau plant ac athrawon.

4    Cymerau, Pwllheli

8    Borthygest

14  Brynaerau, Pontllyfni

15  Abersoch

16  Abererch

17  Nefyn

18  Chwilog

22  Tudweiliog

25  Bro Plenydd, Y Ffôr

28  Llanystumdwy

29  Pontygof, Botwnnog

  1. Adnoddau: Buaswn yn gwerthfawrogi eich gwedïau wrth i mi baratoi ‘Ffyddl@wn’ (Cylchlythyr y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid), adnoddau ar gyfer gwefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac adolygu dogfennau Diogelwch.

 Meryl Walters -Gweithiwr Ieuenctid Hŷn

  1. Mae nifer o’r ieuenctid hŷn a myfyrwyr rydym mewn cysylltiad â hwy yn paratoi ar gyfer eu harholiadau ar hyn o bryd. Cofiwch yn arbennig am y bobl ifanc dros y cyfnod trwm a phrysur hwn. 
  2. Wrth i ni baratoi ar gyfer tymor newydd yr haf, fe fyddwn yn gwerthfawrogi eich gweddiau am nerth, doethineb ac arweiniad clir yr Arglwydd wrth i mi barhau i weithio gydag ieuenctid hŷn ac oedolion ifanc ar draws ein gwlad.