Aros Gyda Ni

Sut mae trefnu cwrs…?

  • Gofynnwch i'r plant os ydyn nhw eisiau mynd i ffwrdd am benwythnos o hwyl efo'i gilydd.
  • Beth am ddod â grŵp i Goleg y Bala fin nos neu wahodd un o weithwyr y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid i ddod i siarad am y ganolfan ac i roi blas ar y math o weithgareddau y gallem eu gwneud gyda'n gilydd?
  • Cynhelir penwythnosau ar gyfer gwahanol oedrannau: plant (8-12) a phobl ifanc (blwyddyn 7 i fyny).
  • Mae llawer o benwythnosau wedi eu trefnu ar gyfer ardaloedd penodol - mae rhai yn dod yn flynyddol - ond mae penwythnosau agored hefyd, e.e. penwythnos ieuenctid. Neu mae modd ymuno â grwp o ardal arall.
  • Os nad ydych wedi bod o'r blaen, ffoniwch Goleg y Bala am sgwrs - bydd y staff yn gallu'ch cynghori ynglŷn â'r amser gorau i ddod.
  • Mae cyrsiau agored yn ystod yr haf hefyd, yn ogystal â chwrs hyffordiant Souled Out i ieuenctid hŷn (15+).
  • Mae Coleg y Bala hefyd ar gael petaech am ddod â grŵp yma yn ystod yr wythnos, e.e. wythnos hanner tymor.

"Mae mynd i Goleg y Bala yn brofiad gwych ac yn llawer o hwyl."

"Hwyl yn yr haf i lawr wrth y llyn."

"Cyfle i wneud ffrindiau."